Cododd mudiad cenhadol grymus yng Nghymru o tua diwedd y 18fed ganrif ymlaen. Roedd yn rhan o symudiad ehangach y byddai iddo ganlyniadau pellgyrhaeddol, yn grefyddol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol, wrth i Gristnogaeth droi o fod yn grefydd i ogledd-orllewin y byd yn bennaf, i fod yn un fyd-eang.

Dau o genhadon Cymreig amlyca’r 19eg ganrif oedd John Davies (1772–1855) o sir Drefaldwyn a Griffith John (1831–1912) o Abertawe. Bu’r ddau’n genhadon am dros hanner canrif, y naill yn Ynysoedd Môr y De a’r llall yn China. Mae Wil Aaron wrthi’n paratoi astudiaeth fanwl o fywyd a gwaith John Davies, ac mae John Aaron wedi cyhoeddi llyfr am Griffith John.

Yn y sgwrs hon wedi’i gadeirio gan Carwyn Graves, bydd y ddau frawd yn tafoli cyfraniadau’r ddau genhadwr, nid lleiaf eu gwaith yn cyfieithu rhannau o’r Beibl i ieithoedd Tahiti a China. Mae pynciau megis ‘trefedigaethedd’, ‘polyethnigrwydd’ a ‘globaleiddio’ yn cael sylw mawr yn ein dyddiau ni, ac mae ystyried gwaith y ddau genhadwr hyn yn cynnig cyfle heb ei ail i archwilio’r hyn sy’n digwydd pan fydd diwylliannau gwahanol iawn yn cyfarfod.

**Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu i’r Saesneg ar y pryd.**