Ar 27 Hydref dewch i glywed gan David Towsey, awdur y nofel ffantasi adnabyddus, Equinox,  yn sgwrsio â’r athro Diana Wallace yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd.  .

Graddiodd David Towsey gyda gradd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa a Phrifysgol Aberystwyth. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Your Brother’s Blood, gan Quercus, a hi oedd y gyntaf yn Nhrioleg Walkin’. Mae hefyd yn ysgrifennu dan y ffugenw D.K. Fields.

Mae Diana Wallace yn Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y Gothig, ffuglen hanesyddol, moderniaeth ac ysgrifennu Cymreig yn Saesneg. Ei chyhoeddiad diweddaraf yw argraffiad o Hunangofiant Margiad Evans (1943) ar gyfer cyfres Clasuron Menywod Cymru Honno.