Roedd Neil M C Sinclair (1944-2019) yn hanesydd lleol, yn aelod rhagweithiol o’r gymuned, yn actifydd ac yn gyhoeddwr cylchlythyrau a llyfran cymunedol ar Tiger Bay. Creodd a chyflwynodd amryw deithiau addysgol o Tiger Bay i ymwelwyr ac ysgolion lleol. Gweithiodd yn agos gydag amryw grwpiau cymunedol lleol a phobl fel Betty Campbell wrth hyrwyddo cyfraniad mewnfudwyr a Tiger Bay.

Yn ei eiriau ei hun, disgrifiodd Neil Tiger Bay fe “Rhywle heb ei debyg ar y ddaear. Waeth o le oeddech chi, o liw, crefydd, ethnigrwydd, doedd dim ots. Ffynnodd pawb fel un Gymuned fawr. Roedd yn drysorfa. Roedd hi fel Casba. Ar un adeg roedd pobl o 57 o wledydd yn byw ac yn gweithio mewn cytgord yno. Yn ei hanfod roedd Tiger Bay yn symbol o gytgord hiliol, ethnig, crefyddol ac eglwysig”.

Mae’r digwyddiad yn dathlu ei fywyd a’i waith a fydd yn cynnwys darlleniadau o’i waith llenyddol a’i atgofion a rennir gan aelodau’r gymuned.

Sylwch mai dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael. Os ydych wedi cadw lle ond ddim yn gallu mynychu, canslwch yr archeb fel bod modd ail-ddyrannu’r tocynnau.

Am ragor o wybodaeth, ac i archebu eich tocyn, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/life-work-of-neil-m-c-sinclair-tiger-bay-historian-tickets-73085672213