
Gofod Agored: Norena Shopland – Women in Welsh Coal Mining
Dewch i glywed mwy am ddarn diddorol o hanes Cymru, wrth i’r awdur a hanesydd Norena Shopland drafod ei llyfr Women in Welsh Coal Mining: Tip Girls at Work in a Men’s World.
Rydyn ni’n tueddu i feddwl am weithio mewn pwll glo fel galwedigaeth wrywaidd, er bod menywod wedi gweithio ar ffas y pwll glo am flynyddoedd lawer cyn iddynt gael eu gwahardd ym 1842. Fodd bynnag, roedd llawer yn dal i weithio o dan ddaear, rhai yn gwisgo ac yn pasio fel dynion i dwyllo arolygwyr ymweld. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif yn gweithio wrth geg y pwll lle’r oeddent yn derbyn y glo, ei lanhau, ei ddidoli a’i dorri i faint. Gwaith budr, llafurus, gan gynnwys llawer o ddamweiniau a marwolaethau, a wnaed gan fenywod a merched, rhai mor ifanc â 10 oed. Dyma hanes y menywod anhygoel hyn.