
Gofod Agored: Sarah Ward + B.E Jones
Mae Sarah Ward yn awdur nofelau cyffro troseddau a gothig. Bydd hi’n siarad am ei nofel ddiweddaraf The Sixth Lie, llyfr trosedd afaelgar lle mae rhaid i Mallory Dawson ddatgelu’r celwyddau wedi’u cuddio yng nghymuned glos Tyddewi. Mae rhywun wedi cadw eu cyfrinachau ers blynyddoedd, a byddai’n lladd i’w diogelu…
Mae B.E. Jones yn gyn-newyddiadurwr a swyddog y wasg gyda’r heddlu, sydd bellach yn nofelydd ac yn obsesiynu â llyfrau. WIlderness yw ei nofel ias a chyffro seicolegol ac yn ddiweddar mae wedi cael ei haddasu ar gyfer cyfres fach deledu chwe rhan a gynhyrchir ar gyfer Amazon Prime Video gan Firebird Pictures.