Treuliodd Jasper Fforde ugain mlynedd yn y busnes ffilm cyn ymddangos ar restr Gwerthwyr Gorau’r New York Times gyda ‘The Eyre Affair’ yn 2001. Mae ei ysgrifennu yn gymysgedd o genres, y gellir ei ddisgrifio fel cyfuniad swynol o Gomedi-SciFi-Cyffro-Trosedd-Dychan. Mae 14eg nofel Fforde, ‘Early Riser’, stori gyffro mewn byd lle mae’r ddynol-ryw bob amser wedi gaeafgysgu, newydd ei chyhoeddi gan Hodder & Stoughton. Ymunwch â ni am ddarlleniad, sesiwn Holi ac Ateb a llofnodi llyfr.