
Golwg ar Gynllun Iwerddon: Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau
Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar gynllun Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau Llywodraeth Iwerddon, sydd wedi bod yn helpu artistiaid i ddelio ag incwm ansicr ac i’w hatal rhag gadael y sector am resymau economaidd ers 2022. Mae’r cynllun yn cynnig taliad wythnosol o €325 i 2,000 o artistiaid a ddewiswyd ar hap. Gyda’r cynllun peilot yn dod i ben ym mis Chwefror 2026, bydd hwn yn gyfle i archwilio sut mae’r cynllun yn gweithio, yr effaith y mae wedi’i gael ar artistiaid a’r sector ddiwylliannol yn Iwerddon, ac i drafod sut fyddai cynllun tebyg yn gweithio yng Nghymru.
Bydd y panel yn cynnwys cynrychiolydd o Dîm Ymchwil Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau yn Llywodraeth Iwerddon; yr awdur Gwyddelig, Elaine Garvey, sy’n derbynnydd y cynllun; a lluniwr newid o Gymru. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.
Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gwasanaeth cyfieithu ar y pryd