
Categori /
Gweithdy
Gweithdai Ysgrifennu Creadigol am ddim
Cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol cyfrwng Cymraeg gyda ffocws ar ymateb pobl hŷn o fewn ein cymunedau i heriau’r pandemig a’r argyfwng hinsawdd. Bydd hwn yn ofod anffurfiol, heb bwysau ar neb i fynychu’r holl sesiynau. Bydd ein gwaith yn ymddangos fel rhan o berfformiad Undercover gan gwmni Striking Attitudes, cwmni dawns proffesiynol Cymreig sy’n creu gwaith i berfformwyr hŷn, yn 2023.
Arweinir y sesiynau gan Iestyn Tyne, awdur a bardd sy’n byw yng Nghaernarfon.