
Gŵyl Beaumaris Festival
Gŵyl Beaumaris 2025 – Mai 21ain i 27ain
Bydd Gŵyl Beaumaris yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 ym mis Mai, â gwledd o raglen sy’n cynnwys rhywbeth at ddant pawb wrth iddi droi rhwng jazz Hot Club, barddoniaeth, caneuon poblogaidd o’r sioeau cerdd, opera, Band Pres Beaumaris, datganiadau artistiaid ifanc, gosber gorawl, sgyrsiau – a llawer mwy.
Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, yn ymweld â’r ŵyl am y tro cyntaf, ac hefyd y Cyn- Delynores Frenhinol, Alis Huws. I’r rhai sy’n mwynhau sioeau cerdd ceir noson o ganeuon poblogaidd wrth i Broadway gwrdd â’r West End, wedi’i pherfformio gan dri chanwr anhygoel – Mared Williams, Glain Rhys, a Steffan Rhys Hughes – sydd wedi serennu yn sioeau’r West End, gan gynnwys Les Mis a The Phantom of the Opera.
Yr artist preswyl eleni yw’r rhyfeddol Andrew Logan, a fydd yn dod â’i gelf a’i emwaith i Beaumaris. Bydd y soprano Eiry Price yn ymuno â Chôr Meibion Cymry Llundain mewn cyngerdd o ffefrynnau corawl Cymreig, a’r soprano Erin Gwyn Rossington a’r bariton Jeremy Huw Williams yn canu gyda’r Gerddorfa Siambr Gymreig dan arweiniad Anthony Hose; bydd y gerddorfa’n chwarae gweithiau gan gyfansoddwyr a fu farw cyn iddynt gyrraedd 40 oed, gan gynnwys Mozart a Gershwin. I agor yr ŵyl bydd Triawd Ben Holder yn cyflwyno noson
o ddarnau jazz gwefreiddiol a swing ochr yn ochr â repertoire chwedlonol Hot Club Django Reinhardt a Stéphane Grappelli.
Ar ôl eu perfformiad cyntaf rhagorol yng Ngŵyl 2024, bydd y Liberata Collective yn dychwelyd i berfformio opera aruchel Mozart, La Clemenza di Tito. Gan ddefnyddio ystumiau ac offerynnau baróc dilys, dyma gyfle unigryw i brofi opera fyw fel y byddai wedi cael ei pherfformio’n wreiddiol.
Mae’r ŵyl bob amser wedi ymdrechu i gyflwyno a hyrwyddo talent ifanc ‘newydd’ gyda’i chyfres o ddatganiadau artistiaid ifanc. Bydd y pianydd ifanc o Landudno, Ellis Thomas, a berfformiodd gyntaf yn yr ŵyl yn 15 oed, yn dychwelyd am y pumed tro i gyfeilio i’r bariton Jeremy Huw Williams mewn datganiad lleisiol sy’n cynnwys caneuon gan Philip Hattey; bydd ei ferch, Rosamund Hattey, yn trafod ei fywyd a’i recordiadau yn ystod sgwrs agoriadol yr ŵyl. Bydd y pianydd ifanc arobryn Tomas Boyles yn rhoi datganiad unigol ac yn cyfeilio i oböydd Cerddor Ifanc y BBC, Ewan Miller. Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys perfformiad ar gyfer ysgolion, a chyngerdd arddangos cerddorion ifanc o Ganolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.