Bydd 6ed Gŵyl flynyddol o Farddoniaeth a Chelf yn dathlu RS Thomas ac ME Eldridge yn cael ei chynnal yn Aberdaron, y pentref ym mhen draw Llŷn ble roedd ef yn ficer a hithau’n arlunydd.

Yn 2014 y cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf. Ers hynny mae wedi bod yn fraint croesawu siaradwyr enwog o’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau, gan gynnwys ein noddwr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint. Mae’r ŵyl wedi noddi mynegi barddoniaeth a chelf ar eu newydd wedd ar gyfer cynulleidfaoedd newydd. Gyda’r ŵyl yn cael ei chynnal yn Aberdaron ym Mhen Llŷn, bydd pobl yn cael eu blas eu hunain ar y tirweddau a fu’n ysbrydoli barddoniaeth Thomas a chelf Eldridge.
Blwyddyn yma fydd Menna Elfyn gyda ni trwy’r Gweithdy Sgwennu Greadigol.