Mae Llyfrgelloedd a Threftadaeth Awen wedi cyffroi ac yn falch o gyflwyno ein Gŵyl Drosedd gyntaf – gŵyl sy’n canolbwyntio ar droseddau ffuglen a ffeithiol, gydag elfen Gymreig.

Wedi’i hariannu’n rhannol gan Llenyddiaeth Cymru, ac mewn cydweithrediad â chydweithfa Crime Cymru, bydd ein llyfrgelloedd wedi’u llenwi â thrafodaethau ac arddangosfeydd.

Bydd yr arddangosfeydd yn llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a’r Pîl yn tynnu sylw at droseddwyr lleol a straeon lleol am droseddau, gan gynnwys y Cap Coch chwedlonol, y Lladrad Bowrington Beiddgar a’r anfad Howard Marks.

Bydd Cystadleuaeth Straeon Trosedd Byrion yn parhau drwy gydol y mis, wedi’i beirniadu gan awduron Crime Cymru.

Hyrwyddir y gystadleuaeth yn y Pamffled Treftadaeth Troseddau sydd ar gael am ddim o bob llyfrgell Awen. Mae’r Pamffled hefyd yn cynnwys amrywiaeth o droseddau a throseddwyr hanesyddol o Gymru, o lofruddwyr i ladron afalau (yn llythrennol).

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ddydd Mercher 2 Tachwedd yn Llyfrgell Pencoed, lle siaradodd Jacqueline Harrett, awdur The Nesting Place, am ei llyfr a’r broses ysgrifennu.

“Sefydlwyd Crime Cymru er mwyn hybu ysgrifennu straeon trosedd yng Nghymru ac mae llyfrgelloedd Cymru wedi bod yn gefnogol tu hwnt i hyn. Mae hi bob amser yn bleser cymryd rhan mewn digwyddiadau llyfrgell sy’n rhoi cyfle i ni gwrdd â darllenwyr ac rydym yn falch iawn o gael gwahoddiad i fod yn bartneriaid ag Awen yn eu gŵyl ffuglen drosedd ym mis Tachwedd.” (Co-chair of Crime Cymru, Matt Johnson)

 

Matt Johnson  

Dydd Mawrth 8th Tachwedd 7-8pm

Llyfrgell Pen-y-bont

 

Louise Mumford  

Dydd Mercher 9th Tachwedd 2-3pm

Llyfrgell Porthcawl

 

Thorne Moore and Judith Barrow  

Dydd Mercher 16th Tachwedd 2-3pm

Llyfrgell Maesteg

 

Myfanwy Alexander (Cymraeg)  

Dydd Gwener 18th Tachwedd 2-3pm

Llyfrgell Abercynffig

 

Gwyneth Steddy  

Dydd Mercher 23rd Tachwedd 11-12pm

Llyfrgell Sarn

 

Mark Ellis  

Dydd Gwener 25th Tachwedd 2-3pm

Llyfrgell Bettws

 

G.B. Williams  

Dydd Mercher 30th Tachwedd 2-3pm

Llyfrgell y Pil

 

Phil Rowlands   

Dydd Mawrth 1st Rhagfyr 7-8pm

Llyfrgell Pen-y-bont