
Gŵyl Gerallt
Mae Barddas, Y Gymdeithas Cerdd Dafod, am gynnal ei Gŵyl Gerallt flynyddol eleni ar benwythnos 24-26 Tachwedd yng Nghaerwys a’r cyffiniau, ardal eisteddfod 1523.
Fel rhan o’r Ŵyl, digwyddiad pwysig ac unigryw fydd cadeirio pencerdd Eisteddfod Caerwys 2023. Y prifeirdd Mererid Hopwood a Myrddin ap Dafydd fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth – pa well na dau archdderwydd! – a’r testun am gerdd gaeth hyd at 150 llinell ydy ‘Etifeddiaeth. Bydd cadair arian yn wobr, wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer yr achlysur; cyfle i ennill cadair genedlaethol na fydd ei thebyg eto am ganrif! Mae’n gystadleuaeth gwbl agored – gall Tudur Aled a Iolo Morganwg anfon cerdd os ydyn nhw’n dal ati i farddoni! Mae manylion y gystadleuaeth a’r dyddiad cau ar wefan www.barddas.cymru
Hefyd, fel rhan o’r Ŵyl, bydd cyfle i fynd i Neuadd Mostyn, lle mae cadair arian a memrwn y sgrôl wreiddiol i alw’r beirdd i Gaerwys ganrifoedd yn ôl, a chael cyflwyniadau am yr achlysur a’r traddodiad. Bydd gweithdai a sesiynau trafod i feirdd yng Nghaerwys, a chyfle cyn ac yn ystod yr Ŵyl i’r plant cynradd gael cwmni creadigol Bardd Plant Cymru, ac i ieuenctid gymryd rhan mewn gornest Talwrn y Beirdd. I gloi’r Ŵyl, bydd ‘Ymryson 5 can mlynedd’ yn Llanelwy rhwng beirdd o fri ein cyfnod ni, o dan reolaeth ganoloesol y Prifardd Twm Morys a Gruffudd Antur, meurynod newydd yr Ymryson yn yr Eisteddfod Genedlaethol.