26-28 Ebrill 2024

Mae gŵyl flynyddol Llandeilo, sy’n dathlu’r gair ysgrifenedig a llafar, yn dychwelyd ym mis Ebrill 2024 gyda thri diwrnod o sgyrsiau, perfformiadau a gweithdai. Bydd ein rhaglen lawn yn cynnwys rhywbeth i bob oed, gan gynnwys: Awduron enwog o Gymru, barddoniaeth, adrodd straeon a cherddoriaeth, gweithdai rhwymo llyfrau a cherfluniau papur.

Siaradwyr:
Owen Sheers, Kate Humble, Dafydd Iwan, John Devereux, Nerys Howell, Alex Wharton, Nia Morais, Adam Price, Andrew Slaughter, Sioned Erin Hughes, Eloise Williams, Meleri Wyn James, Julian Dutton, Johnny Duddle, Atinuke, Gwenfair Griffith, Alun Ffred, Claire Fayers, Wyn Thomas, Alun Davies, Hywel Gwynfryn, Lesley Parr, a llawer mwy!

Gŵyl y Plant yn yr Ŵyl: Y Gelfyddyd o Adrodd Storïau
Gweithgareddau celf, crefft a drama i blant sy’n dod â’r gair ysgrifenedig yn fyw.
Ysgrifennwch gerddi gydag Alex Wharton, Bardd Plant Cymru, dysgwch sut i ddarlunio’ch stori eich hun, a chlywed sgyrsiau gan awduron plant sy’n gwerthu orau.

Aardman Gweithdai creu modelau
Ymunwch â ni am sesiwn gwneud modelau hwyliog ac ymarferol. Byddwch yn gallu bod yn greadigol gyda chlai a gwneud model i fynd adref gyda chi. Bydd y sesiwn yn cael ei rhedeg gan wneuthurwr modelau arbenigol, sydd wedi gweithio ar rai o hoff gynyrchiadau Aardman.