Mae rhestr o’r awduron sy’n cymryd rhan yng Ngŵyl Llên Plant Abertawe a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn ystod penwythnos 7-8 Hydref, wedi’i chyhoeddi.

Bydd mwy na deg ar hugain o awduron plant enwog o Gymru a ledled y DU yn cymryd rhan yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn fydd yn llawn hudoliaeth straeon, cerddoriaeth a drama gyda sesiynau’n cael eu cynnal yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ymysg yr enwau mae Hannah Gold, enillydd Gwobr Llyfr Plant Waterstones 2022 am Last Bear, awdur toreithiog ac enillydd Medal Carnegie eleni, Manon Steffan Ros, Alex Nia Morais Bardd Plant Cymru 2023-25, Alex Wharton, Children’s Laureate Wales 2023-2025, Owen Sheers enillydd sawl gwobr arobryn a noddwr y Sioe Lyfrau Plant a Caryl Lewis enillydd sawl gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru.

Yn cynnal sesiynau hefyd fydd yr awduron roreithiog a phoblogaidd Liz Hyder, Catherine Fisher, Casia Wiliam, Rebecca F.John, Ivor Baddiel, Robin Bennett, Lee Newbery, Lesley Parr, Stephanie Burgis, E.L. Norry, Helen and Thomas Docherty a llawer mwy.

Trefnir yr Ŵyl gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a rhaglen DylanED mewn partneriaeth ag Achub y Plant Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Storyopolis, Cover to Cover a Sefydliad Austin Bailey.

Y nod yw galluogi plant o bob oed i gael mynediad i fyd rhyfeddol geiriau fel y gallant gyrraedd eu llawn botensial. Nid yw hyn bob amser yn bosibl i rai plant, yn enwedig o ystyried bod bron i 1 o bob 4 plentyn yn byw mewn tlodi yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gan Achub y Plant, rhaglen DylanEd Prifysgol Abertawe a Storyopolis ystod o raglenni addysgol arloesol yn Abertawe a De Cymru sy’n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb a gwella canlyniadau i bob plentyn.