Gŵyl Lenyddol Llangwm
Cymysgedd gwych ac amrywiol o awduron a beirdd lleol a rhyngwladol ym mhentref hardd Llangwm yn Sir Benfro. Mae Llangwm yn ymfalchïo yn ei awyrgylch croesawgar ac ansawdd ei sgyrsiau. Cynhelir gweithdy ysgrifennu tri diwrnod ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu. Yn ogystal, ceir celf a chrefftau lleol.