
Categori /
Gŵyl
Gŵyl Storïwyr Ifainc Cymru 2023
Ar gyfer storïwyr o 7 i 25 oed a’u teuluoedd: fe’ch gwahoddir i wledd o adrodd straeon, gweithdai a hwyl. Os ydych yn hoff o straeon traddodiadol, chwedlau, straeon am dylwyth teg, neu’n hoffi creu eich straeon eich hunain, dyma’r digwyddiad perffaith i chi.
Mae croeso i chi roi cynnig ar ein cystadlaethau cyfeillgar neu ddod draw i wrando.
Ymunwch â ni ar-lein neu yn Venue Cymru, Llandudno, Conwy.
Mae’r digwyddiadau hyn yn addas i bobl ifanc 7-25 oed. Mae croeso i rieni a gwarcheidwaid hefyd, yn enwedig gyda’r rhai iau.
Mynediad AM DDIM, ond cofestrwch plîs!
Dydd Sadwrn 14 Hydref 10yb-4.30yp – gweithdai ar-lein. Storïwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru yn rhannu eu cyfrinachau ac awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu straeon.
- 10am Creu hud yn eich Straeon gyda’r consuriwr a’r storïwr Professor Llusern.
- 11.30am Eich Stori Chi gyda chyn-storïwr ifanc y flwyddyn y DU Tamar Eluned Williams.
- 2pm Mae Pob Cynulleidfa’n Anodd gyda’r comedïwr a’r storïwr Ceri John Phillips.
- 3.30pm Awgrymiadau ar gyfer Dewiniaeth Geiriau gyda’r bardd Rufus Mufasa