Nod y diwrnod yw tynnu sylw at y casgliadau yma o waith cyhoddwyr bychain, trwy gyfrwng darlleniadau barddoniaeth, cyflwyniadau ffilm a chelf weledol, paneli trafod, a gweithdy creadigol.

Beirdd: Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa; awdur o Hafan Press, Aruni McShane; Samantha Wynne-Rhydderch a Mererid Hopwood.

Panelyddion: Luke Thurston, Neal Alexander ac Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth; Francesca Brooks, Prifysgol Efrog; Nia Daniel, LlGC; Elaine Treharne, Prifysgol Stanford.

Ffilm a chelf weledol: Rhun Jones, LlGC a myfyrwyr o Ysgol Celfyddyd Gain y Slade, UCL.

Llyfrgellwyr ac archifyddion: Timothy Cutts, LlGC; Liz Lawes a Tabitha Tuckett, ac Erika Delbecque, UCL.

Cyfranwyr eraill: Clare Lees, Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain; Mererid Puw Davies, UCL a Sharon Morris, Ysgol Celfyddyd Gain y Slade, UCL.

Tocynnau: https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/evt-GpoWA0eA7MY0RLPN

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer cyflwyniadau yn Gymraeg a gellir gofyn cwestiynau yn Gymraeg drwy gydol y digwyddiad.

Rhwydwaith rhyngwladol yw Spineless Wonders, yn cysylltu artistiaid, awduron, academyddion a llyfrgellwyr sy’n creu ac yn ymchwilio cyhoeddiadau gan weisg bychain, gan gynnwys llyfrau artistiaid.

Byddwn yn cyflwyno gweithiau gan gyhoeddwyr bychain Cymreig o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC). Yn ogystal, byddwn yn arddangos a thrafod deunydd Cymraeg o gasgliadau llyfrgelloedd Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a Phrifysgol Stanford ar-lein.

Noddir y digwyddiad hwn ar y cyd gan UCL, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Stanford.