
Categori /
Adrodd Stori, Gweithdy
Glywais ti’r un am…? Gweithdai hel straeon
gyda’r awdur a’r perfformiwr Rhian Cadwaladr
Dydd Iau Mehefin 9fed a’r 16eg, 1:30pm-3:30pm
Yn canolbwyntio ar:
- Ddod o hyd i straeon llai adnabyddus Llanrwst a’r cyffiniau. Storïau o’r gorffennol a’r presennol fel y’i hadroddir gennych chi, eich teulu, ffrindiau neu cymdogion– o gelwydd golau i hanesion doniol.
- Archwilio ffyrdd o ddweud y straeon hyn yn gryno.
- Ysbrydoli eraill i greu gwaith celf fydd yn darlunio y straeon hyn.
Mae dynol ryw wedi rhannu eu straeon ers cyn cof, dewch i rannu eich straeon chi!
Er mwyn sicrhau eich lle e-bostiwch / ffon nawr: llyfrgell.llanrwst@conwy.gov.uk Ffon: 01492 577545
Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i rannu’r straeon fel rhan o Brosiect Celfyddydau Cymunedol ehangach Take pArt Llanrwst.
Mae Rhian Cadwaladr wedi gweithio fel perfformwraig ers blynyddoedd lawer ac wedi ysgrifennu tri llyfr plant, pedair nofel i oedolion a llyfr coginio. Mae hi’n hwylusydd gweithdai profiadol ac wedi gweithio gyda phlant ac oedolion o bob oed a gallu.