Tiwtoriaid / Pamela Petro & Kumari Tilakawardane

Ar y cwrs penwythnos hwn, byddwn yn archwilio’r thema cartref, a’r cysyniad unigryw Cymreig hwnnw o hiraeth – yr ymdeimlad o ysu am gartref delfrydol, neu’r teimlad o fod yn ddieithr mewn amser, lle, neu hyd yn oed yn eich croen eich hun – drwy waith ffeithiol-greadigol. Mae’r ddwy sydd yn tiwtora wedi ysgrifennu’n angerddol am adref ac am hiraeth. Kumari, yn awdur Cymraeg-Sri Lancaidd ifanc, yn archwilio bod rhwng dau gartref; a Pamela, Americanes sydd yn teimlo fwyaf cartrefol yng Nghymru, ac wedi archwilio’r pwnc yn ddiweddar yn ei chyfrol newydd The Long Field.

Bydd awduron ysgrifau a chofiannau yn defnyddio’r un technegau ag awduron ffuglen, yn cynnwys disgrifiadau, creu golygfa a sgwrs, adlewyrchu, crynodebau a dehongliadau i adrodd stori sy’n gafael. Byddwn yna archwilio’r technegau hyn, ac yn eu defnyddio i adrodd ein straeon ac i ddisgrifio beth yw ystyr adref i ni: boed yn leoliad, yn deimlad, yn berson neu yn dymor. Gan ddefnyddio darlleniadau llwyddiannus o weithiau ffeithiol-greadigol sy’n sôn am gartref fel man cychwyn, bydd y tiwtoriaid yn cynnig ysgogiadau a thasgau i annog syniadau newydd.