Gig esclwsif yng Ngorsaf Rheilffordd Eryri, Ffordd Santes Helen, Caernarfon

Dyma’r cyfle cyntaf i glywed caneuon o drydydd albym Yr Ods yn fyw. Mae Iaith y Nefoedd yn gywaith cysyniadol gyda’r awdur Llwyd Owen, gyda caneuon yr albym wedi’i ysbrydoli gan nofel fer o’r un enw sy’n ail-ddehongli’r ymadrodd cyfarwydd, a’i osod mewn stori epig am Gymru ddystopaidd sy’n pydru â chasineb. Mewn dyfodol diobaith, caiff rhyddid a syniadau eu rheoli hyd yr eithaf.

Bydd y band Pys Melyn yn agor y noson ac mae’r tocyn yn cynnwys mynediad i barti ar ôl y gig yng Nghlwb Hwylio Caernarfon gyda DJs byw.

NIFER CYFYNGEDIG O DOCYNNAU AR GAEL – DIM MYNEDIAD HEB DOCYN

Addas i oed 16+ (o dan 16 oed gyda rhiant yn unig)