Dyma wahoddiad gan Gyhoeddiadau Barddas i feirdd gofrestru ar ein tudalen Eventbrite i fynychu diwrnod o weithdai a sgyrsiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Bydd y diwrnod hwn yn estyniad ar ein galwad agored gyfredol am gerddi i’w hystyried ar gyfer Blodeugerdd Amgylchedd (teitl i ddilyn), dan olygyddiaeth Dyfan Lewis, fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2027.

Cynhelir y diwrnod dan arweiniad a gofal Meleri Davies – bardd, datblygwr cymunedol ac ymarferydd creadigol, a Lowri Hedd Vaughan – sgwennwr, hwylusydd ac ymarferydd adfywiol.

Mae’r gwahoddiad hwn yn agored i bob bardd, boed yn brofiadol neu’n newydd. Ein gobaith yw rhoi cyfle i eraill ddysgu am gymunedoli, trafod yr argyfwng hinsawdd trwy greadigrwydd a myfyrio ar y thema ‘Dychmygu’. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Darperir bwyd a diod gydol y dydd.

Gyda diolch i Raglen Argyfwng Hinsawdd y Llyfrgell Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Ynni Cymunedol Cymru, Cronfa Ysbrydoli Cymunedau (Llenyddiaeth Cymru), Dinas Llên UNESCO a Cyngor Llyfrau Cymru am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth.