Fel milwr, gohebydd tramor, dringwr Everest, teithiwr, awdur mwy na 40 llyfr ac enaid rhydd, bu Jan Morris yn croniclo hynt a helynt y byd, a Chymru, ers dros hanner canrif.

Drannoedd ei phen-blwydd yn 93, bydd Jan yn sgwrsio â’i mab Twm Morys, gyda darlleniadau gan Gwyneth Glyn a gair am y cyd-destun Cymreig gan Yr Athro Angharad Price Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Bangor.

Noson ddwyieithog fydd hon. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

12+