Lansiad dros Zoom – Theatr y Gymraes
Dewch i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol arbennig hon yng nghwmni Sera Moore Williams a Rhiannon Williams gyda darlleniadau byr gan rai o fyfyrwyr Prifysgol De Cymru.
Dyma gyfrol arloesol sy’n rhoi sylw haeddiannol i gyfraniad menywod i fyd y theatr yng Nghymru, ac sy’n cynnwys tair drama sydd heb eu cyhoeddi o’r blaen (Byth Rhy Hwyr, Mefus, Mab).
Croeso cynnes iawn i bawb!
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad trwy ebostio: post@honno.co.uk