Ymunwch â ni ar gyfer perfformiad adrodd stori byw yng Canolfan Mileniwm Cymru i lansio ein prosiect newydd sbon; Y Ferch Na Fyddai’n Ildio Byth.

Mae ein prosiect yn seiliedig ar chwedl Gymreig draddodiadol sy’n ymwneud â gobaith, gwytnwch, a grym pobl ifanc a chymunedau i greu newid anhygoel. Bydd y digwyddiad hwn yn lansio rhaglen o gelf stryd a chreadigedd cymunedol, gan arwain at ddathliad ar draws y ddinas ym mis Mai 2020. Ymunwch â ni ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd i ddysgu mwy am y prosiect hwn a sut y gallwch chi a’ch cymuned gymryd rhan.

Cynhelir perfformiadau yng Nghyntedd Glanfa a byddant yn para oddeutu 30 munud. Ar ôl y perfformiad, bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau i’ch cael chi i feddwl yn greadigol am y stori a’ch ysbrydoli i ymuno â’r prosiect cydweithredol, cyffrous hwn.

Mae tocynnau am ddim, ond byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn archebu lle fel ein bod yn gwybod faint o bobl i’w disgwyl.

Cynhelir perfformiadau am 11am, 1pm a 3pm.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.monsterinthelake.co.uk/ 

Dilynwch @BewareTheAfanc ar Twitter er mwyn canfod rhai o’r cyfleoedd diweddaraf.