Lansiad Rhifyn 4 cylchgrawn Y Stamp
Flwyddyn ers lansio’r Stamp cyntaf un mewn noson yn y Cŵps, Aberystwyth, mae golygyddion y cylchgrawn creadigol yn paratoi at lansio rhifyn arall.
Ers y noson honno, mae cylchgrawn Y Stamp wedi bod yn cyhoeddi gwaith creadigol yn wythnosol ar y we, yn ogystal â chyhoeddi tri rhifyn print llawn, ac un ychwanegol am ddim adeg Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017. Wedi’r lansiad yn Aberystwyth, bu digwyddiadau lansio yn Tafwyl yng Nghaerdydd; Gŵyl Arall yng Nghaernarfon; a Thŷ Tawe yn Abertawe.
Un o addunedau gwreiddiol Y Stamp oedd i “gynnig llwyfan i amrywiaeth llenyddol a chelfyddydol drwy gyfrwng y Gymraeg – lleisiau amgen, lleisiau ifanc, lleisiau lleiafrifol, lleisiau o bob ban byd.”
“Ym mhob rhifyn, mae’r Stamp wedi cynnwys gwaith gan o leiaf un person sydd erioed wedi cyhoeddi darn o waith creadigol mewn print … Mae’r wefr o dderbyn gwaith gan rywun nad ydyn nhw erioed wedi cyhoeddi o’r blaen yn anhygoel” meddai Iestyn Tyne yn ei ddarn golygyddol ar ddechrau rhifyn 4.
Rhai o gyfranwyr rhifyn newydd y gwanwyn yw Ceri Rhys Matthews, Morwen Brosschot, Sam Jones, Llio Maddocks, Gareth Evans Jones, Becca Voelcker a Mihangel Morgan. Yr artist Bethan Scorey sydd yn y gyfrifol am y gwaith celf trawiadol ar y clawr.
Bydd darlleniadau o’r rhifyn yn y lansiad diweddaraf yn Llithfaen, yn ogystal â chyflwyniadau gan Myrddin ap Dafydd, Cywion Cranogwen, a Chwmni’r Tebot.
Mae copïau o’r cylchgrawn yn £4, ac ar gael i’w prynu yn y lansiad, o nifer o siopau llyfrau Cymraeg, ac am y tro cyntaf, o wefan Y Stamp ar ei newydd wedd. Bydd modd lawrlwytho’r rhifyn am ddim ar ffurf PDF ymhen rhai wythnosau wedi’r lansiad.
Bydd lansiad pedwerydd rhifyn Y STAMP nos Iau 29 Mawrth yn y Llofft, Tafarn y Fic, Llithfaen am 8pm. Mynediad yn £3.
ystamp.cymru
golygyddion.ystamp@gmail.com
@ystampus