Lansiad Rhuo ei Distawrwydd Hi
Ymunwch am sesiwn gan Cerddi Canol Pnawn fydd yn dathlu’r bardd Meleri Davies wrth iddi lansio ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Rhuo ei Distawrwydd Hi.
Cyfle i brynu’r gyfrol a llif cyson o baneidiau yng Nghanolfan Cefnfaes ym Methesda.
Tair cenhedlaeth o fenywod yr un teulu yw asgwrn cefn Rhuo ei Distawrwydd Hi, y gyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Meleri Davies, a gyhoeddir fis Tachwedd 2024. Mae galar a gorfoledd bod yn fenyw, yn ferch ac yn fam yn cordeddu drwy’r cerddi, sydd weithiau’n gynnil-ymatalgar a thro arall yn ffrwydrol. Dysgwch fwy am y casgliad yma.
Croeso cynnes i unrhyw un sy’n dymuno gwneud darlleniad o gerddi/cerddi yn y slot meic agored yn dilyn y sesiwn gyda Meleri.
Dewch yn llu!