Bydd y cwrs hwn yn defnyddio straeon a chwedlau gwerin poblogaidd a rhai llai cyfarwydd fel man cychwyn i ddylanwadu ar weithiau barddoniaeth a rhyddiaith newydd. Byddwn yn edrych ar elfennau o’r straeon hyn ac yn eu defnyddio yn gerrig sylfaen i greu ein gweithiau epig ein hunain: cymeriadau cryfion, moesau amheus, cyrchoedd, trosiadau ac yn bwysicach na dim: lle. Gan ddefnyddio llefydd sy’n agos at ein calonnau, lleoliadau sy’n ein hysbrydoli, a mannau yn ein cof, byddwn yn ystyried sut i’w defnyddio yn sail i’n straeon. Byddwn yn ystyried iaith, a sut i’w defnyddio’n ddoeth i greu cerddi a straeon hudolus.

Mae Catherine a Marcus ill dau’n ysgrifennu llyfrau ffantasi sydd wedi ennill gwobrau dros y byd, ac sydd wedi eu gwreiddio yn y tirlun ac mewn chwedlau. Bydd y ddau yn arwain trafodaethau a gweithdai yn ogystal â gweithio’n unigol gyda chi ar eich delweddau, eich syniadau a’ch geiriau.