Llwybr Cadfan
Teithiwch ar reilffordd Ucheldir Cymru (Welsh Highland railway) gan wrando ar farddoniaeth a cherddoriaeth Gymraeg.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ddathladiau y prosiect llenyddol Llwybr Cadfan. https://bangor.eglwysyngnghymru.org.uk/newyddion/2022/02/10/lawnsiad-prosiect-llenyddol-ar-llwybr-cadfan/
Trên y Welsh Highland Railway o Porthmadog i Beddgelert- tua 40 munud o daith a stop o 20ain munud ym Meddgelert. Tua 1 awr 45munud i gyd.
Amser Cychwyn: 12pm
Beirdd Preswyl: Sian Northey a Siôn Aled
Bardd Gwadd: Twm Morus
Adloniant: Gwyneth Glyn a Twm Morus
Hefyd bydd Archddiacon Meirionnydd, Yr Hybarch Andrew Jones yn rhoi ychydig o hanes Cadfan y Sant o’r 6ed ganrif. Annes Glyn(cyn fardd gwadd) yn darllen ei cherdd am Llangelynin.
Tocyn: £10 (yn cynnwys cacen a diod)
Nifer cyfyngedig o docynnau ar gael: 50.