‘Local Fires’: Joshua Jones mewn sgwrs gyda Jane Fraser
Mae ‘Local Fires’ yn troi ffocws yr awdur newydd Joshua Jones at ei fan geni sef Llanelli, de Cymru. Yn eironig ac yn felancolaidd, yn llawn llawenydd a galar, er bod y straeon amlweddog hyn wedi’u gosod mewn tref fach, maen nhw’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’w hardal leol. O’r llesgedd o fyw mewn hen ardal dosbarth gweithiol, ddiwydiannol, i rywedd, rhywioldeb, gwrywdod tocsig a niwroamrywiaeth, mae Jones wedi llunio casgliad sy’n amlochrog o ran thema ac arsylwi, wrth i anffawd trigolion y dref fygwth gorlifo i ddiweddglo ffrwydrol.
Yn y gyfres drawiadol hon o straeon sy’n gysylltiedig, mae tanau llythrennol a throsiadol, lleol a hollgynhwysol, yn fflamio ynghyd i gyflwyno dyfodiad llais llenyddol Cymreig neilltuol newydd.
Mae Joshua Jones (ei/ef) yn awdur awtistig, cwiar ac yn artist o Lanelli, de Cymru. Gwnaeth sefydlu Dyddiau Du ar y cyd, sef gofod celf a llenyddiaeth NiwroCwiar yng Nghaerdydd. Mae ei ffuglen a’i farddoniaeth wedi cael eu cyhoeddi gan Poetry Wales, Broken Sleep Books, Gutter ac eraill. Mae’n un o Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2023, ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r British Council i gysylltu awduron cwiar o Gymru a Fietnam. Local ‘Fires’ yw ei gyhoeddiad ffuglen cyntaf.
Mewn partneriaeth â Cover to Cover.