Creaduriaid yw cerddi, a’r rheini’n meddu ar eu bywydau eu hunain. Dyna a gredai Ted Hughes pan ysgrifennodd: “Fy nod fu darlunio nid anifeiliaid yn benodol, ac nid cerddi, ond yn syml bethau sydd â’u bywydau byw eu hunain…” Byddwn ninnau’n dilyn ac yn darlunio’n cerddi fel pe baen nhw’n greaduriaid sydd â’u bywydau eu hunain, y tu hwnt i’n dirnad ni. Bydd tiwtoriaid yn dod ag offer maes, ysbienddrychau, seinchwyddwyr i glywed cân yr adar, synwyryddion ystlumod, microsgopau, chwedlau am anifeiliaid a chanllawiau i fwyd gwyllt er mwyn crwydro gerddi cyforiog Tŷ Newydd a’u golygfeydd o’r môr a’r mynyddoedd. Byddwn hefyd yn dilyn cerddi ar hyd glannau coediog afon Dwyfor gerllaw wrth iddi lifo tua’r aber, a’r tu hwnt, i draeth Cricieth. Dewch yn fwrlwm o frwdfrydedd dros fyd natur, barddoniaeth a’r awyr agored. Erbyn diwedd yr wythnos fe fyddwch chi wedi llunio eich sioe anifeiliaid eich hun, a honno wedi’i chreu yn ystod gwaith maes, gweithdai, hyfforddiant unigol, a chymorth cerddi eraill am fywyd gwyllt a fydd yn eich ysbrydoli.