Ar ben-blwydd marw’r bardd Hedd Wyn, ymunwch â ni am ddarlleniadau a thrafodaeth yng nghwmni’r awduron Sian Northey, Ifor ap Glyn a Mike Parker ynglŷn â gwerth a phwysigrwydd llenyddiaeth am ryfel, heddwch ac erledigaeth.
Trefnir gan PEN Cymru a Chymdeithas y Cymod gyda chymorth Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru.
Mynediad am ddim ond croesewir cyfraniadau.