Darlleniadau a thrafodaeth yng nghwmni’r awduron Hywel Griffiths, Eluned Gramich a Meic Birtwistle ynglŷn â gwerth a phwysigrwydd llenyddiaeth am ryfel, heddwch ac erledigaeth. Y cadeirydd yw Sian Howys a threfnir y digwyddiad gan PEN Cymru a Chymdeithas y Cymod gyda chymorth Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru.
Mynediad am ddim ond croesewir cyfraniadau.