Bydd yr artistiaid Mari Elen ac Iola Ynyr yn creu a chynnal gweithdai creadigol penodol ar gyfer merched Cymraeg eu hiaith sy’n byw gyda chamddefnyddio sylweddau. Anelir y prosiect hwn at unigolion sy’n adnabod eu hunain yn fenywaidd o ardal Gwynedd a Môn sydd wedi’u hynysu. Bydd podlediad arbennig yn cael ei gynhyrchu fel cynnyrch creadigol ar gyfer y prosiect hwn.

Cynhelir cyfres rhwng dydd Iau 17 Chwefror a Dydd Iau 24 Mawrth 2022 (bob dydd Iau o 1pm-3pm ar gyfer merched yn unig). Gallwn gynnig lle i 10 yn y gweithdai wyneb-yn-wyneb yn Galeri, Caernarfon.

Cofrestrwch i ddangos diddordeb yn y gweithdai grwp neu fe allwn drefnu sesiynau 1:1, trwy ebostio Nia ar nia.skyrme@theatr.com a gallwn drefnu sgwrs anffurfiol unigol i chi gyda Iola i drafod unrhyw gwestiwn sydd gennych.

Os oes gennych unrhyw ystyriaethau allai eich rhwystro rhag cyfranogi, cysylltwch er mwyn i ni geisio eu goresgyn. Rydyn ni’n awyddus i greu prosiect lle mae mynediad i bawb a ffyrdd o weithredu’n amrywiol er mwyn sicrhau cynhwysiant. Does yna ’run pryder sy’n rhy fach neu’n rhy fawr i’w drafod.