Ym mis Mehefin 2021, cynhaliodd Taliesin, mewn partneriaeth â LitFest Dhaka yn Bangladesh, Newid Popeth, cyfres ar lein i archwili sut y gallai creadigrwydd a meddwl addasol helpu i oresgyn heriau’r argyfyngau hinsawdd ac ecoleg. Canolbwyntiodd y digwyddiadau, a’r cyfan o safbwynt byd y gogledd/ byd y de, ar saith maes allweddol: Arian, Bwyd, Dŵr, Ynni, Cyfiawnder,
Stori a Newid ei hun.

Ymgollodd lab awduron oedd yn cynnwys chwe awdur o Gymru a Bangladesh yn sgyrsiau Newid Popeth. Ymunwch â ni nawr, flwyddyn yn ddiweddarach, a chwe mis wedi COP26, i glywed beth ddysgon nhw, trafod eu hymatebion a gwylio’r hyn a ysgrifennwyd ganddynt. Dan gadeiryddiaeth Athro Creadigrwydd Prifysgol Abertawe Owen Sheers a Chyfarwyddwr LitFest Dhaka Sadaf Saaz.

Dyma’r cyntaf o dri digwyddiad Popeth Newid.

Newid Popeth: Ysgrifennu Newid – Rhan Dau (Gwener 17 Mehefin, 7pm)
Newid Popeth: Ysgrifennu Newid – Rhan Tri (Iau 30 Mehefin, 6pm)

Alys Conran
The Changing Days
Stori fer wedi’i hanimeiddio sy’n taro tant bendigedig am fam sy’n parhau â’u harfer dyddiol ar ymyl dymchwel yr hinsawdd, gan un o awduron mwyaf cyffrous a dawnus Cymru.

Kaiser Haq
The New Frontier
Myfyrdod barddol sych, di-flewyn-ar-dafod gan un o feirdd mwyaf arwyddocaol Bangladesh am ystyr bod yn ddynol yn yr 21ain ganrif mewn trobwll o gyfryngau cymdeithasol, byd sy’n cynhesu ac anghydraddoldeb byd-eang.