Noson Meic Agored
Mae croeso i unrhyw un ddod ac unrhyw ddarn o waith i’w berfformio yn y noson hon, sydd wedi ei threfnu fel rhan o’n prosiect ‘Peintio gyda Geiriau’ gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru. Mae croeso mawr i bobl fu’n rhan o’r gweithdai barddoniaeth ecffrastig i ddod i rhannu cynnyrch y gweithdai, sy’n ymateb yn benodol i’r arddangosfa agored ar y thema ‘gofod’, ond os oes gynnoch chi gân neu gerdd neu sgets neu fonolog neu berfformiad o unrhyw fath yr hoffech chi ei rhannu o flaen cynulleidfa caredig a chefnogol, dewch ac ô. Does dim rhaid i chi fod yn ymateb i’r thema ‘gofod’ ond os hoffech chi greu rhywbeth yn unswydd, byddai hynny’n fendigedig. Mae croeso i chi gyflwyno eich cyfansoddiad yn unrhyw iaith. Mae hefyd croeso i chi ddod i wylio a chefnogi heb berfformio, wrth gwrs.
Bydd diodydd meddal a gwin ar gael ar y noson, pris tocyn yw £7.