Bydd Yr Athro Jerry Hunter yn rhoi darlith i ni ar Lenyddiaeth Gymraeg a Rhyfel Cartref America, gan grybwyll caethwasanaeth. Bydd cyfle i’w holi ar y diwedd.

Mae’r Athro Jerry Hunter yn adnabyddus led-led Cymru a thu hwnt. Mae wedi dysgu Cymraeg ac yn darlithio yn Adran Gymraeg Prifysgol Bangor. Mae yn Awdur sawl llyfr yn ffuglen ac yn ffeithiol.

Caiff y noson ei chynnal gyda chymorth ariannol gan gynllun nawdd Awduron ar Daith.