Ymunwch â Kirsti Bohata, Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe a’r hanesydd arloesol Norena Shopland mewn trafodaeth ag Ifor ap Dafydd (LlGC) ar hanesion cudd y Gymuned LHDTC+, a pherthynas yr hanesion hyn â straeon ffuglen.

O gofnodion y crwner i gofnodion ysgariad, ewyllysiau i dlotai, mae hanesion cudd LHDTC+ o’r golwg ond eto o flaen ein llygaid ac yn ysu i gael eu darganfod. Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y straeon hyn a’r traddodiad llenyddol LHDTC+ Cymreig a ddatguddiwyd yn ddiweddar.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi rhai o’r datblygiadau cyffrous ar-lein sydd ar y gweill ym maes hanes LHDTC+.

Mae’r digwyddiad yma trwy gyfrwng y Saesneg.