Doedd y 70au ddim yn fflêrs, glam roc a phync i gyd… Yn Painting the Beauty Queens Orange, mae’r menywod a fu’n byw drwy’r degawd yn datgelu sut brofiad oedd gwthio’r ffiniau, hawlio eich hunaniaeth a mynnu lle i chi eich hun yn y gaeaf o anfodlonrwydd, haf crasboeth ’76 a thwf Thatcheriaeth. Mae un fenyw’n ffarwelio â’i baban newydd-anedig yn erbyn ei hewyllys. Mae un arall yn achub ar gyfleoedd newydd ac yn hwylio bant ar dancer LGP gyda chriw o ddynion. Mae trydedd yn datgan ei hunaniaeth rywiol. Mae pedwaredd yn sefydlu busnes yn ei chegin sy’n lansio brand rhyngwladol. Mae’r straeon hyn am uchelgais ac antur, mamolaeth a phriodas yn dorcalonnus, yn ddigrif ac yn onest yn eu tro.

 

Bydd y cyfranwyr, Carolyn Lewis ‘The Sound of Water’ a Kate Cleaver ‘Firsts’, ynghyd â golygydd y llyfr, Rebecca F. John, yn sgwrsio â Dr Alan Bilton, awdur ac Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Kate Cleaver

Mae Kate Cleaver yn awdur Eingl-Indiaidd sy’n astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi’n ymchwilio i fywydau pobl gyffredin a gafodd eu carcharu yng Ngwallgofdy Llansawel, Vernon House. Mae hi wedi dechrau creu straeon ac wedi canfod bod cysylltu ei straeon â ffeithiau hanesyddol yn ffordd o adfywio pobl o’r gorffennol; mae hi’n gofyn a oes modd ail-greu’r ysbrydion hyn drwy straeon a hanes creadigol. Yn 2019, cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobrau New Welsh Writing ac mae ei hunangofiant, ‘Just So You Know’, newydd gael ei gyhoeddi gan Parthian.

 

Carolyn Lewis

 

Ganwyd Carolyn yng Nghaerdydd ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn antholegau blaenorol Honno. Cafodd ei nofel gyntaf, Missing Nancy, ei chyhoeddi gan Accent Press yn 2008. Enillodd ei MPhil mewn Ysgrifennu ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru bellach). Mae ei straeon wedi ennill gwobrau cenedlaethol a lleol ac wedi cael eu cyhoeddi yn The New Welsh Review, Mslexia a Route Magazine ymysg eraill. Mae hi wedi gweithio fel tiwtor ysgrifennu creadigol am flynyddoedd maith a chyhoeddwyd dau lyfr testun yn seiliedig ar ei dulliau addysgu. Ar hyn o bryd, mae hi’n ysgrifennu nofel newydd er mwyn ennill ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Rebecca F. John

Ganwyd Rebecca F. John ym 1986, a chafodd ei magu ym Mhwll, pentref bach ar arfordir de Cymru. Mae ganddi BA mewn Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, yn ogystal â TAR/AHO gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ei straeon byrion wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio 4Extra. Yn 2015, cafodd ei stori fer, ‘The Glove Maker’s Numbers’ ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer The Sunday Times/EFG. Enillodd hi Wobr New Voices PEN International yn 2015. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Clowns’s Shoes, drwy Parthian yn 2015. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist, drwy Serpent’s Tail ym mis Gorffennaf 2017. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Costa am y Nofel Gyntaf Orau. Yn 2022, bydd hi’n cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant gyda Firefly Press,yn ogystal ag ail nofel i oedolion, The Empty Greatcoat, a nofel fer, Fannie, gyda Gwasg Honno.