Ydych chi yn teimlo’n barod i gyhoeddi eich gwaith? Neu efallai eich bod yn cychwyn ar eich taith fel awdur, ac yn chwilfrydig i ddysgu mwy am y byd cyhoeddi. 

Ymunwch â golygyddion o rai o brif weisg Saesneg eu hiaith Cymru i ddysgu mwy am y broses o gomisiynu, golygu a chyhoeddi eich gwaith. Sut mae gyrru llawysgrif i wasg? Pa wasg sydd fwyaf addas i chi? Sut fath o waith mae ein gweisg yn edrych amdano ar hyn o bryd? Beth sydd angen cofio ei wneud, a beth y dylid ei osgoi? Bydd cyflwyniadau gan gynrychiolwyr o Broken Sleep Books, Lucent Dreaming a Honno, yna cewch wahoddiad i yrru cwestiynau at y panel i’w hateb yn fyw ar y noson. 

Archebu ei lle

Noder for sesiwn arall wedi ei threfnu ar 30 Medi gyda chynrychiolwyr rhai o’r gweisg sy’n cyhoeddi gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.