Sarah Tanburn yn siarad ag Alan Bilton am ei chasgliad newydd o straeon byrion, gyda darlleniad a sesiwn holi-ac-ateb.

Mae pum stori yn ‘Plant y Wlad’ yn digwydd mewn lleoedd go iawn: Caerllion, Rhossili, Ynys Llandwyn, Bannau Brycheiniog, dan Eryri. Dyma leoedd y bydd darllenwyr yn eu hadnabod ac yn eu caru, wedi’u hadnewyddu. Daeth Hawks of Dust and Wine yn ail yng ngwobr Rheidiol 2019, ac fel yr holl straeon hyn, mae’n cynnig arwres gref ac anghonfensiynol. Mae Sarah Tanburn yn mynd â ni ar daith wefreiddiol, wrth bob amser ofyn cwestiynau pwysig am y math o Gymru yr hoffem fyw ynddi.

Bydd y straeon llawn dychymyg hyn yn apelio at y rhai hynny sy’n dwlu ar Angela Carter ac Ursula Le Guin. Mae Sarah Tanburn yn mynd â ni o fytholeg i Gymru’r dyfodol lle mae gan blant aflonydd leisiau grymus. Wedi’i gwreiddio yn nhirwedd Cymru, mae ei hiaith yn curo â grym y môr, mae’n codi ac yn troi ar y gwynt ac yn adleisio â synau’r ddaear ddwfn.

‘Writing in a notably fresh voice and strikingly original, these fables hook us in as readers and take us off in thrilling and unpredictable directions.’ Philippa Davies

‘Sarah Tanburn populates the terrain of Wales with a glorious cast of colourful characters. Conveying a sense of wonder about a world that Is intriguingly off-kilter, and presented compellingly well.’ Jon Gower.

Mae Sarah Tanburn yn byw ac yn ysgrifennu yn ne Cymru. Mae hi’n hwylio ac yn heicio, gan ymdrochi yn yr amgylchedd o’i chwmpas, ac yn nesáu at orffen ei PhD rhan-amser mewn Ysgrifennu Creadigol yn Abertawe. Cyhoeddwyd ei gwaith mewn antholegau ac ar-lein, gan gynnwys ‘New Welsh Review’, ‘Ink’, ‘Sweat and Tears’, ‘Aliens’ (gan Iron Press), ‘Wifiles’ a chylchgrawn ‘Superlative’. Mae hi’n ysgrifennu’n rheolaidd i ‘Nation.Cymru’.