
Categori /
Barddoniaeth, Plant / Pobl Ifanc
Barddoniaeth yn y Parc (oed 8-12)
Cerddwch, edrychwch, crëwch, a rhannwch…
Bydd y bardd a’r cyflwynydd radio dwyieithog Clare E. Potter yn eich tywys drwy Barc Gwledig Bryngarw, gan arwain eich sylwadau fel y gallwch greu eich barddoniaeth eich hun yn seiliedig ar y natur yr ydych yn ei gweld.
Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i anelu at blant 8-12 oed a’u rhieni/gwarcheidwaid.
Crëwch rhywbeth arbennig gyda’ch gilydd yr hanner tymor yma.
Nifer cyfyngedig o leoedd – rhaid archebu lle.
Mae dwy sesiwn ar gael: 10:30-12:30 a 14:00-16:00
Ffoniwch 01656 754853 10am-5pm Llun-Gwener, neu e-bostiwch sarn.library@awen-wales.com i archebu tocyn.