Rhowch fin ar eich arfer addysgu a darganfod ffyrdd creadigol newydd o feithrin cariad at ddarllen ac ysgrifennu ar lawr dosbarth!

Cynhadledd undydd yw Pop Up Lab sy’n canolbwyntio ar greadigrwydd trawsgwricwlaidd trwy lenyddiaeth plant ar lawr dosbarth ac mae’n creu lle i archwilio, arbrofi a dysgu.

BYDD CYNADLEDDWYR:
– Yn dewis pedair o chwe sesiwn o raglen
o weithdai ymarferol (75 munud yr un)
– Rhannu a dysgu o brofiad athrawon o weithio
gydag awduron ar lawr dosbarth
– Datblygu syniadau ymarferol newydd ar gyfer dysgu,
ysgrifennu a chreadigrwydd ar draws Meysydd
– Dysgu a Phrofiad

-Creu, tynnu llun neu ysgrifennu’n greadigol eu hunain

Cynhalia POP UP PROJECTS Ŵyl Pop Up, sef gŵyl lenyddol genedlaethol i blant sy’n dod â llenyddiaeth yn fyw mewn ysgolion ledled Cymru a Lloegr. Bob blwyddyn, caiff cannoedd o ystafelloedd dosbarth mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig eu cysylltu â llyfrau eithriadol ynghyd â’u hawduron i ddathlu darllen am bleser, ysgrifennu creadigol ac adrodd straeon yn weledol – gan gynnwys, ers pum mlynedd, mewn pum ysgol gynradd yn Abertawe / Castell-nedd Port Talbot.

Cyflwynir Pop Up Lab ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd – trwy’r Athrofa Addysg – wedi bod yn gwerthuso gwaith Pop Up yng Nghymru.