Sgwrs gydag awdur y nofel The Shadow Order, Rebecca F. John.

Ganwyd Rebecca F. John ym 1986, a chafodd ei magu ym Mhwll, pentref bach ar arfordir de Cymru. Mae ganddi BA mewn Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, yn ogystal â TAR/AHO gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae ei straeon byrion wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio 4Extra. Yn 2015, cafodd ei stori fer, The Glove Maker’s Numbers ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer The Sunday Times/EFG. Enillodd hi Wobr New Voices PEN International yn 2015.

Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Clowns’s Shoes, drwy Parthian yn 2015.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist, drwy Serpent’s Tail ym mis Gorffennaf 2017. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Costa am y Nofel Gyntaf Orau.

Yn ddiweddar mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr arall i oedolion – The Empty Greatcoat (Aderyn Press) a Fannie (Honno Press) – ac ym mis Medi bydd yn cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant, The Shadow Order, gyda Firefly Press.