Yn Hydref 2021, gohiriwyd taith stadiwm Robin Ince gyda’r Athro Brian Cox oherwydd y pandemig. Yn hytrach na gwneud dim, penderfynodd fynd ar daith o amgylch dros gant o siopau llyfrau yn y DU, o Wigtown i Penzance; o Abertawe i Margate. Roedd un o’r siopau hynny ym Mhenarth, ac mae Griffin Books yn falch iawn o gael Robin yn ôl eto eleni i sôn am y llyfr a ddaeth allan o’i daith yn 2021, Bibliomaniac.