Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru am noson wefreiddiol i ddathlu llwyddiannau ein llenorion talentog Cymreig! Y digrifwr a’r cyflwynydd Tudur Owen fydd yn ein tywys drwy’r noson wrth i ni ddatgelu pwy sy’n dod i’r brig yn y categorïau Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigo la Phlant a Phobl Ifanc, yn ogystal â phwy fydd yn cipio gwobrau Barn y Bobla theitl Llyfr y Flwyddyn 2024.
Llyfr y Flwyddyn yw ein gwobrau llenyddol cenedlaethol sy’n dathlu llwyddiannau llenorion Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae deuddeg gwobr i gyd, gyda chyfanswm o£14,000 o wobrauar gael i’r awduron llwyddiannus.
Cyhoeddwyd rhestr fer eleni mewn partneriaeth â BBC Radio Cymru ar ddydd Sul 12 Mai, ewch draw i’r dudalen prosiect Llyfr y Flwyddyn i weld yr holl deitlau.
Cofiwch bleidleisio am eich hoff lyfr ar y rhestrau byrion ar wefannau Golwg360 a Nation.cymru.
Diolch i’n holl bartneriaid a noddwyr ni eleni am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth. Noddir y seremoni a’r derbyniad gan Cwrw Llŷn, Distyllfa Penderyn a Brecon Carreg.
Cyflwynir y seremoni yn ddwyieithog ac fe fydd cyfieithydd ar y pryd Cymraeg – Saesneg ar gael. Cysylltwch â ni o flaen llaw am unrhyw anghenion hygyrchedd a dehonglydd BSL.