
Gŵyl Farddoniaeth Caerdydd Seren
Mae Gŵyl Farddoniaeth Caerdydd Seren, a drefnir gan y cyhoeddwr annibynnol Seren, yn ôl, rhwng dydd Gwener 29 a dydd Sul 31 Gorffennaf 2022. Ar ôl digwyddiad arlein llwyddiannus yn 2021, mae’r ŵyl yn mynd yn hybrid gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn person yn Yr Atriwm ac yn cael ei ffrydio arlein.
Mae rhaglen 2022, sydd wedi’i churadu gan olygyddion barddoniaeth newydd Seren, Rhian Edwards a Zoë Brigley, yn canolbwyntio ar y thema o llesiant.
Mae rhaglen eleni yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau Cymraeg a dwyieithog. Bydd Siân Melangell Dafydd yn cynnal dau weithdy Cymraeg, bydd Angela Graham yn cadeirio ‘Barddoniaeth a Noddfa’, trafodaeth banel ddwyieithog, a bydd Kizzy Crawford yn cloi’r penwythnos gyda chyngerdd dwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd ein holl ddigwyddiadau wyneb yn wyneb (ac eithrio gweithdai) yn cael eu ffrydio’n fyw ar lwyfan cynnwys Cymraeg amam.cymru, a gynhyrchwyd gan Culture Colony.
Mae tocynnau ar gyfer yr ŵyl ar werth nawr ac mae’r rhaglen lawn i’w gweld ar wefan Gŵyl Farddoniaeth Caerdydd Seren: https://cardiffpoetryfestival.com/programme/. Yn ogystal â thocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol, mae opsiynau ar gyfer tocynnau Diwrnod a Phenwythnos sy’n berffaith ar gyfer teithiau hirach.
Hoffai’r ŵyl ddiolch ein noddwyr Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Llenyddiaeth Cymru a’n partneriaid creadigol AC a Culture Colony am helpu i wneud yr ŵyl yn bosibl.