Ymunwch â ni am brynhawn ddychmygus a datblygwch eich sgiliau ysgrifennu creadigol gyda Silvia Rose drwy archwilio themâu o hunaniaeth a cymuned. 🌿

Cynhelir y sesiwn gyntaf yn Oriel Brondanw, wedi’i gosod o fewn gerddi hanesyddol hardd Plas Brondanw, cartref teuluol crëwr Portmeirion, Clough-Williams Ellis.

Cynhelir yr ail sesiwn yn y cwt clyd yng Ngwarchodfa Natur Gwaith Powdwr ym Mhenrhyndeudraeth, sy’n edrych dros Aber Afon Dwyryd. Efallai na fydd y sesiwn hon yn addas ar gyfer y rhai sydd â phroblemau symudedd gan fod mynediad i’r cwt ar droed ar dir anwastad.

Cynhelir y drydedd sesiwn yn Oriel Caffi Croesor, wrth droed y Cnicht. Mae bws mini ar gael i fynd â chi yn ôl ac ymlaen i’r sesiwn hon, cysylltwch â hwbcroesor@gmail.com i drefnu.

Dydd Sul 10fed o Fawrth = Oriel Brondanw, 3:30-5:30yh
Dydd Sul 17eg o Fawrth = Gwaith Powdwr, 2:00-4:00yh
Dydd Sul 14eg o Ebrill = Oriel Caffi Croesor, 2:00-4:00yh

Cacen a phaned ar gael am ddim ar y diwrnod!