
Sgwad Sgwennu Tŷ Newydd #2
Wyt ti’n caru ‘sgwennu? Ydi dy ddychymyg di’n drên? Yna ymuna ag un o ddiwrnodau Sgwadiau ‘Sgwennu Tŷ Newydd!
Cynhelir cyfres o ddiwrnodau Sgwad ‘Sgwennu yn ystod y flwyddyn ysgol ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 14 mlwydd oed. Byddi’n dysgu wrth draed rhai o awduron gorau Cymru gan gynnwys Rhys Iorwerth, sy’n arwain y sesiwn yma ar ddydd Sul 3 Tachwedd.
O’r Rhyl i’r Rhondda, o Hwlffordd i Harlech, o’r Drenewydd i Ddyfnant – lle bynnag yng Nghymru yr wyt ti’n byw, os wyt ti’n hoffi ysgrifennu mae croeso cynnes i ti yn Sgwad ‘Sgwennu Tŷ Newydd.
Mae llety am bris rhesymol ar gael i deuluoedd sy’n teithio o bell.
Lleoliad: Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Gwynedd, LL52 0LW
Amser: 11.00 am – 2.00 pm
Cost: £10 y sesiwn
(ysgoloriaethau ar gael i blant sy’n derbyn cinio ysgol am ddim)
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer Sgwad, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru.