Sgwrs am Mary Silyn
Ffigwr allweddol oedd Mary Silyn (1877 – 1972) yn yr ymgyrch i gael addysg i oedolion, pan oedd hwnnw’n faes i ddynion gan mwyaf. Mae ei stori yn un sy’n ysbrydoli, a’i gweledigaeth yn un fawr – dros addysg, dros Gymru, a heddwch rhyngwladol. Bydd Angharad Tomos yn sôn am ei bywyd prysur, ac am yr ymchwil a arweiniodd at sgwennu’r nofel Arlwy’r Sêr.