
Sgwrs gyda Joanne Harris
Bydd yr awdur arobryn Joanne Harris yn siarad am ei bywyd mewn llyfrau. Wrth ddysgu am 15 mlynedd, cyhoeddodd dair nofel, gan gynnwys Chocolat, a gafodd ei gwneud yn ffilm a enwebwyd am Oscar gyda Juliette Binoche a Johnny Depp yn serennu.
Ers hynny, mae hi wedi ysgrifennu 15 nofel arall, dwy nofel fer, dau gasgliad o straeon byrion, nofel fer Dr Who, y libretti ar gyfer dwy opera fer, sawl sgript sgrin, sioe gerdd a thri llyfr coginio. Mae ei llyfrau wedi’u cyhoeddi mewn dros 50 o wledydd ac wedi ennill nifer o wobrau. Bydd Joanne yn arwyddo ac yn gwerthu ei nofel ddiweddaraf Broken Light, a detholiad o’i theitlau eraill.